Mae CADMHAS yn gwerthfawrogi sylwadau ac adborth gan y bobl sy’n defnyddio ei wasanaethau. Yn dilyn ymlaen o hynny, mae’n ymrwymo bob amser i sicrhau fod unrhyw gŵyn y mae’n ei derbyn yn cael ystyriaeth deg.
Mae CADMHAS wedi ymrwymo i sicrhau fod pob pryder dilys yn cael ei ymchwilio a’i ddatrys yn y ffordd fwyaf priodol a sensitif i bawb sy’n gysylltiedig ag o.
Mae CADMHAS wedi’i ymrwymo i ymateb i gŵyn o fewn cyfnod o bythefnos, er mwyn gadael digon o amser i ymchwilio’r mater. Os hoffech ofyn am gopi o’n trefn gwyno gyflawn, ffoniwch ein swyddfa ar 01745 813999 a byddwn yn anfon copi atoch.
Os hoffech wneud cwyn, siaradwch gydag aelod o’r staff, drwy ffonio ein swyddfa ar 01745 813999 neu defnyddiwch ein ffurflen gysylltu yma
Mae’r dudalen hon ar gael yn: English