Mae CADMHAS yn cynnig gwasanaeth annibynnol o safon, sy’n cael ei hysbysu gan ddefnyddwyr, sy’n rhoi llais i bobl fregus a’u gofalwyr er mwyn diogelu eu hiechyd a’u lles.
Rydym wedi’n hymrwymo i:
- Hybu annibyniaeth
- Herio gwahaniaethu ac atal triniaeth annheg.
- Ddiogelu hawliau unigol
- Rymuso
Gwerthoedd CADMHAS
ANSAWDD: Mae CADMHAS yn ymdrechu i sicrhau bod ei safon yn uchel fel sefydliad, cyflogwr a darparwr gwasanaeth.
GONESTRWYDD: Bod yn agored a gonest yn ein rhyngweithio i gyd.
YMREOLAETH: Yr hawl i hunan-lywodraethu.
CYFRINACHEDD: Mae CADMHAS yn credu bod gan bawb sy’n defnyddio ein gwasanaeth yr hawl i gyfrinachedd. Mae gennym systemau i sicrhau bod yr holl wybodaeth o natur gyfrinachol yn cael ei pharchu a’i diogelu. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y byddwn yn torri ein cytundeb cyfrinachedd gyda chi. Dyma’r eithriadau:
- Os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni am blentyn sy’n cael ei gam-drin;
- Os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein harwain i gredu bod eich bywyd chi, neu fywyd rhywun arall, mewn perygl
- Os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni sy’n ymwneud â gweithredu terfysgol.
Dan yr amgylchiadau yma, byddem bob amser yn dweud wrthych am y datgeliad ac yn ceisio sicrhau eich cydweithrediad.
Nodau ac Amcanion CADMHAS
Cyllid
Sicrhau systemau rheoli ariannol cadarn, yn ogystal â manteisio ar bob cyfle priodol i gael arian ac i ostwng costau cyfatebol, er mwyn gallu sicrhau bod y sefydliad yn llwyddo, gan weithio tuag at gynyddu incwm ymhob blwyddyn ariannol.
Staffio
I gyd-fynd ag arferion da ynghyd â’r ddeddfwriaeth bresennol, bydd y staff yn gymwys, yn gymwysedig ac yn gallu cyrraedd eu llawn botensial er mwyn bod yn rhan o dîm brwdfrydig a sicrhau bod pobl yn derbyn gwasanaeth rhagorol.
Hyfforddiant
Yn rhan o’r System Adolygu a Datblygiad Personol (PDR), bydd anghenion hyfforddi’r staff i gyd yn cael eu hadolygu’n flynyddol ac mae’n rhaid i bob aelod o’r staff feddu ar y cymwysterau angenrheidiol, neu fod yn gweithio tuag at y cymwysterau angenrheidiol, i’w galluogi i gyflawni eu rolau a goblygiadau statudol y sefydliad.
Polisïau a Gweithdrefnau
Bydd yr holl Bolisïau a Gweithdrefnau’n berthnasol, yn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth gyfredol, yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ac yn hygyrch i’r staff i gyd* a chyrff eraill fel y bo’n briodol. Bydd adolygiadau’n digwydd yn flynyddol heblaw bod angen gwneud hynny tu allan i’r amseriad yma. *staff ar gyflog, gwirfoddolwyr ac aelodau’r Bwrdd
Defnyddwyr y Gwasanaeth
Bydd CADMHAS yn darparu gwasanaeth sy’n effeithiol, yn hygyrch, yn amserol ac o’r ansawdd gorau posib i holl ddefnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr. ALLANOL
Ansawdd ac Achrediad
Byddwn yn cynnal ac yn raddol wella ein statws Buddsoddwyr mewn Pobl er mwyn ennill y wobr Arian yn 2017 ac Aur wedi hynny a byddwn yn gweithio tuag at gyflawni dyfarniadau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol a fydd yn cryfhau ein hymrwymiad i safonau uchel o ragoriaeth, ac yn gwella ein harbenigedd a’n proffil (yn y sector eiriolaeth).
Grantiau (a Chontractau)
Bydd gan y sefydliad y gallu a’r wybodaeth angenrheidiol i ganiatáu i bobl ganfod, ymgeisio a chynhyrchu incwm yn llwyddiannus er mwyn cynnal ein safle. Byddwn hefyd yn sicrhau (o leiaf) un ffrwd ariannu ychwanegol bob blwyddyn.
Partneriaid Strategol
Byddwn yn gwella ac yn adeiladu ar ein perthnasoedd gwaith gyda’r holl bartneriaid a chomisiynwyr i sicrhau ein bod yn dod yn Wasanaeth Eiriolaeth arweiniol.
Mae’r dudalen hon ar gael yn: English