• Hafan
  • Amdanom
    • Hanes
    • Beth yw eiriolaeth?
    • Ein Datganiad Cenhadaeth a’n Gwerthoedd
    • Ein safleoedd
    • Cwynion
    • Argyfwng – Cymorth
  • Cymorth i Chi
    • Y Bobl a Gefnogwn
    • Iechyd Meddwl Cymunedol
    • Eiriolaeth Galluedd Meddwl Annibynnol
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol
    • Cynrychiolydd Pobl Berthnasol
    • Cyfeillion Cyfreitha
    • Cymorth ar gyfer Bobol Ifanc
  • Cymorth i Bobol Broffesiynol
    • Ein Gwasanaethau (Proffesiynol)
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol i Bobl Broffesiynol
    • Hyfforddiant i Bobl Broffesiynol
    • Cynrychiolwyr Pobl Berthnasol i Bobl Broffesiynol
    • Y Ddeddfwriaeth
  • Ffurflenni Atgyfeirio
    • Ffurflen Atgyfeirio Cymunedol
    • Ffurflen Atgyfeirio EGMA
    • Ffurflen Atgyfeirio EIMA
  • Swyddi a Newyddion
    • Swyddi Gwag
  • Cyswllt
    • Argyfwng – Cymorth
  • Cymraeg
  • English

CADMHAS

CADMHAS Advocacy for people with Mental Health Issues

  • Email
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Twitter
Rydych yma:Home / Amdanom ni / Hanes

Hanes

Mehefin 2007

Agorodd CADMHAS ei ddrysau a dechreuodd gynnig cefnogaeth i’n cleientiaid cyntaf erioed yn y gymuned. Ni fyddai hyn wedi digwydd heb y grŵp o unigolion penderfynol iawn a wnaeth gynnig tendr llwyddiannus yn ôl yn 2006.

Wrth i’r cwmni ddechrau datblygu, dechreuodd y gwasanaeth yr oeddem yn ei ddarparu ddatblygu hefyd, yn cynnwys Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol statudol. Mae hyn wedi golygu ein bod ni’n gallu gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau eiriolaeth eraill; ASNEW yn Sir y Fflint a MHAS yng Ngwynedd. Mae hyn wedi ehangu’r gwasanaethau eiriolaeth drwy siroedd Gogledd Cymru o Gonwy a Sir Ddinbych i Sir y Fflint, Wrecsam, Gwynedd a Môn.

Awst 2008

Wedi hynny, daeth CADMHAS yn gwmni cofrestredig, cyfyngedig drwy warant a chafodd ei achredu’n elusen gofrestredig yn fuan wedyn.

Llwyddodd CADMHAS i dderbyn grant gan Comic Relief, a chaniataodd hwn i ni ddatblygu gwasanaethau pellach. Ymysg y rhain oedd prosiect Iechyd Meddwl i helpu pobl hŷn.

Caniataodd y grant yma i ni redeg y prosiect am dair blynedd, ac am ei fod yn llwyddiannus, derbyniodd y prosiect ragor o arian gan sefydliad Lloyds TSB i’n galluogi i barhau â’r prosiect am flwyddyn arall. O ganlyniad, roedd hi’n bosib i ni ymgorffori’r prosiect i mewn i’n gwasanaeth eiriolaeth gymunedol.

2013

Gwnaeth Cadmhas newidiadau pellach i’w wasanaethau er mwyn ateb anghenion ein cleientiaid, a chychwyn prosiect eiriolaeth nad yw’n ymwneud ag Iechyd Meddwl sydd wedi’i anelu at bobl ifanc. Mae’r Gwasanaeth Eiriolaeth Pobl Ifanc yn rhoi llais i bobl ifanc hyd at 25 oed. Rydym yn gweithio o fewn consortiwm ac rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda dau brosiect arall yn Sir Ddinbych i ddarparu’r gwasanaeth yma.

2014

Llwyddodd CADMHAS i ennill y contract Galluedd Iechyd Meddwl Annibynnol mewn partneriaeth ag eiriolaeth ASNEW yn Sir y Fflint a Gwasanaeth MHAS Gwynedd. Mae’r galw wedi cynyddu am y gwasanaeth eiriolaeth mewn galluedd meddwl oherwydd y gyfraith achosion newydd (P vs  Gorllewin Swydd Gaer) sy’n datgan bod yn rhaid rhoi mwy o bobl sydd heb y gallu o dan y gorchymyn amddifadu o ryddid.

2016

Yn ychwanegol at ein gwasanaethau presennol yng Nghonwy a Sir Ddinbych, bu ein tendr yn llwyddiannus yn hwyr yn 2016 i ddarparu Gwasanaethau Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol i Ogledd a De Powys.

Ym mis Hydref y flwyddyn honno enillodd CADMHAS y Nod Perfformiad am Ansawdd Eiriolaeth. Derbyniwyd y nod yma i gydnabod ymrwymiad y sefydliad a’i allu i ddarparu eiriolaeth annibynnol o safon uchel. Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu helpu mwy o bobl ar hyd a lled y siroedd yma, ac rydym yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i’n defnyddwyr bob amser.

Mae’r dudalen hon ar gael yn: English

  • Hanes
  • Beth yw eiriolaeth?
  • Ein Datganiad Cenhadaeth a’n Gwerthoedd
  • Ein safleoedd
  • Cwynion
  • Argyfwng – Cymorth
  • 9.00am – 4.30pm Llun
  • 9.00am – 4.30pm Mawrth
  • 9.00am – 4.30pm Mercher
  • 9.00am – 4.30pm Iau
  • 9.00am – 4.30pm Gwener

Copyright © 2023 CADMHAS. All rights reserved.

Colony of Ants Web Design and Development