• Hafan
  • Amdanom ni
    • Argyfwng – Cymorth
    • Hanes
    • Beth yw eiriolaeth?
    • Ein Datganiad Cenhadaeth a’n Gwerthoedd
  • Cymorth i Chi
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol i Bobl Broffesiynol
    • Cyfeillion Cyfreitha
  • Cefnogaeth i Bobl Ifanc
    • Sut alla i gael cymorth?
  • Cymorth i Bobl Broffesiynol
    • Ein Gwasanaethau (Proffesiynol)
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol i Bobl Broffesiynol
    • Hyfforddiant i Bobl Broffesiynol
    • Cynrychiolwyr Pobl Berthnasol i Bobl Broffesiynol
    • Y Ddeddfwriaeth
  • Cysylltu â ni
    • Argyfwng – Cymorth
  • English
  • Cymraeg

Gwasanaeth Eirolaeth Iechyd Meddyl Conwy a Sir Ddinbych

CADMHAS Advocacy for people with Mental Health Issues

  • Email
  • Facebook
  • Twitter
Rydych yma:Home / Amdanom ni / Y Bobl a Gefnogwn

Y Bobl a Gefnogwn

Annibyniaeth

Mae ein Eiriolwyr yn annibynnol a byddent yn cynrychioli eich dymuniadau heb eich beirniadu na rhoi eu barn bersonol i chi. Rydym yn credu mai chi yw’r arbenigwr am eich bywyd chi’ch hun a bydd ein heiriolwyr yn gweithredu yn ôl y pethau rydych chi eisiau eu gweld yn digwydd.

Manteision

Yma yng Ngwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych, neu CADMHAS yn fyr, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r bobl a gefnogwn. Mae ein eiriolwyr yn rhoi cymorth i gefnogi iechyd a lles pobl fregus a’u gofalwyr. Nid yw ein eiriolwyr yn beirniadu a byddent yn helpu’r bobl y maent yn eu cefnogi i:

  • Gael clust ac ystyriaeth i’w dymuniadau a’u barn pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau am eu bywydau
  • Helpu i fynegi eu barn a’u pryderon
  • Ddeall pa wasanaethau sydd ar gael
  • Adael iddynt wybod pa hawliau sydd ganddynt
  • Edrych ar ba wybodaeth, dewisiadau ac opsiynau sydd ar gael

Sut mae hyn o fudd i’r bobl a gefnogwn?

  • Mae ein eiriolwyr yn annibynnol ac yn gallu gweithio ar ran y bobl y maent yn eu cefnogi i adolygu’r penderfyniadau pwysig a wneir yn eu bywydau;
  • Mae ein eiriolwyr yn gwybod dipyn go lew am gyfreithiau a allai effeithio ar y bobl y maent yn eu cefnogi, megis y Ddeddf Iechyd Meddwl neu Alluedd Meddyliol. Maent hefyd yn gwybod am hawliau pobl, systemau iechyd a gofal cymdeithasol a chyfraith gofal cymunedol;
  • Gall ein eiriolwyr gefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd cyfathrebu a mynegi eu barn, yn enwedig mewn cyfarfodydd neu pan fydd llawer o bobl o gwmpas;
  • Fel rhywun annibynnol o’r maes Iechyd neu Wasanaethau Cymdeithasol, gall ein eiriolwyr gefnogi rhywun sydd heb unrhyw un arall, a siarad drostynt pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau pwysig amdanynt.

Cyfrinachedd

Mae Cadmhas yn credu bod gan bawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau yr hawl i gyfrinachedd, a bydd yr holl wybodaeth yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Ni fyddwn yn dal gwybodaeth amdanoch nac yn rhannu gwybodaeth gyda phobl heb eich caniatâd. Dim ond mewn sefyllfaoedd difrifol y byddwn yn torri ein cyfrinachedd gyda chi. Ni fyddem ond yn torri ein cytundeb os byddech yn rhoi gwybodaeth am y canlynol

  • Gwybodaeth yn ymwneud â phlentyn sy’n cael ei gam-drin/cham-drin
  • Gwybodaeth sy’n ein harwain i feddwl bod eich bywyd chi, neu fywyd rhywun arall, mewn perygl
  • Gwybodaeth yn ymwneud â gweithred derfysgol.

Dydy ein heiriolwyr ddim yno i redeg eich bywyd i chi na gwneud penderfyniadau drosoch. Maent yno i wrando ar eich pryderon, a’ch helpu i ystyried pa ddewisiadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud

Mae ein Eiriolwyr wedi ymrwymo i

  • Hybu eich Annibyniaeth
  • Herio annhegwch ac atal triniaeth annheg
  • Diogelu acEdrych ar ôl eich hawliau a’ua diogelu eich hawliau

Mae’r dudalen hon ar gael yn: English

  • 9.00am – 4.30pm Llun
  • 9.00am – 4.30pm Mawrth
  • 9.00am – 4.30pm Mercher
  • 9.00am – 4.30pm Iau
  • 9.00am – 4.30pm Gwener

Copyright © 2021 Conwy and Denbighire Mental Health Advocacy Service. All rights reserved.

Colony of Ants Web Design and Development