
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dod a sawl her a chyfle i CADMHAS, gydag ehangiad ar y rolau a’r estyn.
Dywedodd Elfed Williams, Cyfarwyddwr CADMHAS:
“Mae CADMHAS wedi gweld twf cryn yn y flwyddyn ddiwethaf. Yn ogystal â chynnig ein gwasanaeth yng Nghonwy a Sir Ddinbych, proses tendro llwyddiannus, rydym bellach yn cynnig gwasanaethau EGMA (Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol) ac EIMA (Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol) yng Ngwynedd, Ynys Môn, Sir Fflint a Wrecsam. Yn dilyn y broses tendro, rydym wedi croesawu chwe aelod o staff newydd i’r mudiad, er mwyn i ni fynd o nerth i nerth.
“Ym mis Mai, fe wnaethom recriwtio Swyddog Cyfathrebu newydd, sef Louisa Moore. Mae Louisa, sydd wedi gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru, yn gyfrifol dros ddiweddaru ein safle we, creu hysbysebion recriwtio a dylunio deunydd hyrwyddo ar gyfer ein sianeli cymdeithasol.
“Ym mis Awst, gwnaethom hysbysebu am bedwar EGMA newydd i ymuno a CADMHAS trwy ein cynllun prentisiaeth, ac rydym yn bwriadu penodi tri EGMA arall i ymuno’r cynllun prentisiaeth yn y flwyddyn newydd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cwblhau cwrs Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4, lle byddant yn mynychu coleg, yn rhithiol, am ddau ddiwrnod y mis. Mae hyn yn galluogi’r ymgeiswyr i ddarparu’r gwasanaeth EGMA, fel y’i diffinnir yn y rhaglen gwaith, wrth gwblhau’r gwaith cwrs perthnasol ac ennill cymhwyster Lefel 4. Bydd ein EGMAau newydd yn gweithio ar draws Gogledd Cymru i ddarparu ein gwasanaeth (un yn gweithio yng Ngwynedd ac Ynys Môn, dau yng Nghonwy a Sir Ddinbych ac un arall yn Sir Fflint a Wrecsam). Rydym eisoes wedi hysbysebu ar gyfer EIMA ym Mhowys, unwaith eto trwy ein cynllun prentisiaeth. Bydd hyn yn cynyddu ein tîm o 19 ar gychwyn y flwyddyn yma i 34 erbyn mis Mawrth nesaf.
“Mae CADMHAS yn sefydliad a arweinir gan ddefnyddwyr ac, yn y cyfnod hwn o gynnydd ac ehangu, rydym wedi cychwyn gwaith ar recriwtio ymddiriedolwyr newydd i ymuno a’n elusen. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi dechrau chwilio am ymddiriedolwyr newydd i ymuno a’n bwrdd clodwiw, er mwyn dod a syniadau a safbwyntiau newydd i’r elusen. Rydym yn croesawu datganiadau o ddiddordeb oddi wrth unrhyw berson gyda phrofiad mewn gweithio mewn iechyd meddwl, cyllid neu gyfathrebu, neu ag unrhyw sgiliau eraill y maent yn teimlo y gallent fod o fudd i ni fel sefydliad.
“Mae CADMHAS yn parhau i dyfu, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o ansawdd yn barhaus i’n defnyddwyr.”
Mae’r dudalen hon ar gael yn: English