• Hafan
  • Amdanom
    • Hanes
    • Beth yw eiriolaeth?
    • Ein Datganiad Cenhadaeth a’n Gwerthoedd
    • Ein safleoedd
    • Cwynion
    • Argyfwng – Cymorth
  • Cymorth i Chi
    • Y Bobl a Gefnogwn
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Sir Conwy a Sir Ddinbych
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Gwynedd ac Ynys Môn
    • Eiriolaeth Galluedd Meddwl Annibynnol
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol
    • Cynrychiolydd Pobl Berthnasol
  • Cymorth i Bobol Broffesiynol
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Sir Conwy a Sir Ddinbych
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Gwynedd ac Ynys Môn
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol i Bobl Broffesiynol
    • Hyfforddiant i Bobl Broffesiynol
    • Cynrychiolwyr Pobl Berthnasol i Bobl Broffesiynol
    • Y Ddeddfwriaeth
  • Ffurflenni Atgyfeirio
    • Ffurflen Ymholiad Cymunedol
    • Ffurflen Atgyfeirio EGMA
    • Ffurflen Atgyfeirio EIMA
  • Swyddi a Newyddion
    • Swyddi Gwag
  • Cyswllt
    • Argyfwng – Cymorth
  • English
  • Cymraeg

CADMHAS

CADMHAS Advocacy for people with Mental Health Issues

  • Email
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Twitter
Rydych yma:Home / Cymorth i Chi / Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol

Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol

mental health support

Mae ein EIMAau yn Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol sy’n eich cynrychioli chi. Dydyn ni ddim yn gweithio i unrhyw un arall.

Gallent helpu unrhyw un sy’n cael eu trin am anhwylder iechyd meddwl yn yr ysbyty neu mewn lleoliad cofrestredig, p’un a ydynt yno o’u gwirfodd neu wedi cael eu hanfon yno. Maent hefyd yn cynrychioli’r bobl hynny sy’n atebol i orchymyn triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth, gorchymyn gwarcheidiaeth neu sydd wedi’u rhyddhau’n amodol.

Gall ein Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol helpu i’ch cefnogi i sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed mewn cyfarfodydd; eich helpu i ddeall rhagor am yr adran yr ydych wedi cael lle arni, a’ch helpu i ddeall eich hawliau a chael gafael ar gofnodion perthnasol. Gall ein eiriolwyr hefyd ddarparu cefnogaeth mewn llawer iawn o feysydd eraill.

Er mwyn i’n heiriolwyr ddarparu’r gwasanaeth yma, mae’n rhaid i gleientiaid gyflawni’r meini prawf a ganlyn:

  • Bod mewn sefydliad sy’n gofrestredig gydag Arolygiaeth Iechyd Cymru
  • Bod yn derbyn asesiad neu driniaeth am broblemau iechyd meddwl
  • Os ydynt yn byw mewn lleoliad yn y gymuned mae’n rhaid i unigolion fod o dan orchymyn triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth, gorchymyn gwarcheidiaeth neu fod yn unigolion sy’n gleifion dan gyfyngiadau

Sut ydw i’n cyfeirio rhywun?

Y dull a ffafrir gennym yw i atgyfeiriadau gael eu gwneud trwy ein gwefan – gellir dod o hyd i’r ffurflenni cyfeirio yma (neu drwy glicio ar y tab Ffurflenni Atgyfeirio ar y ddewislen ar frig y wefan)

Fel arall, gellir gwneud atgyfeiriadau dros y ffôn ar 01745 813999 neu drwy anfon atgyfeiriad i admin@cadmhas.co.uk

Mae’r dudalen hon ar gael yn: English

  • 9.00am – 4.30pm Llun
  • 9.00am – 4.30pm Mawrth
  • 9.00am – 4.30pm Mercher
  • 9.00am – 4.30pm Iau
  • 9.00am – 4.30pm Gwener

Copyright © 2026 CADMHAS. All rights reserved.

Colony of Ants Web Design and Development