• Hafan
  • Amdanom ni
    • Argyfwng – Cymorth
    • Hanes
    • Beth yw eiriolaeth?
    • Ein Datganiad Cenhadaeth a’n Gwerthoedd
  • Cymorth i Chi
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol i Bobl Broffesiynol
    • Cyfeillion Cyfreitha
  • Cefnogaeth i Bobl Ifanc
    • Sut alla i gael cymorth?
  • Cymorth i Bobl Broffesiynol
    • Ein Gwasanaethau (Proffesiynol)
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol i Bobl Broffesiynol
    • Hyfforddiant i Bobl Broffesiynol
    • Cynrychiolwyr Pobl Berthnasol i Bobl Broffesiynol
    • Y Ddeddfwriaeth
  • Cysylltu â ni
    • Argyfwng – Cymorth
  • English
  • Cymraeg

Gwasanaeth Eirolaeth Iechyd Meddyl Conwy a Sir Ddinbych

CADMHAS Advocacy for people with Mental Health Issues

  • Email
  • Facebook
  • Twitter
Rydych yma:Home / Cymorth i Chi / Eiriolaeth Galluedd Meddwl Annibynnol

Eiriolaeth Galluedd Meddwl Annibynnol

Mae ein Eiriolwyr Galluedd Iechyd Meddwl Annibynnol (IMCA) yn rhoi diogelwch cyfreithiol i unigolion sydd heb y gallu i wneud penderfyniadau pwysig, neu sydd wedi colli eu rhyddid. Mae ein IMCA fel arfer yn cefnogi unigolion sydd heb gyfeillion neu deulu a allai eu cynrychioli nhw. Rôl yr IMCA yw sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir ar ran unigolyn sydd heb y gallu’n gwneud hynny er lles gorau’r person yma, a sicrhau bod barn yr unigolyn yn cael ei phasio i’r bobl sy’n ceisio penderfynu beth yw eu buddion pennaf. Gall hynny gynnwys gweithio mewn tîm o bobl broffesiynol ym maes meddygaeth a gofal cymdeithasol i wneud y penderfyniad gorau i’r person hwnnw mewn meysydd fel yma:

  • Lle dylai’r unigolyn fyw
  • Pa opsiynau i’w dewis ar gyfer cael triniaeth feddygol ddifrifol

Mae ein IMCA hefyd yn cefnogi unigolion sydd wedi colli eu rhyddid, neu Dols (Deprived of Liberty) yn fyr, sy’n byw mewn ysbyty neu gartref gofal. Er mwyn i’n heiriolwyr ddarparu’r gwasanaeth yma, mae’n rhaid i’r cleient ateb y meini prawf nesaf:

  • Rhaid i rywun proffesiynol mewn iechyd neu ofal cymdeithasol ystyried nad oes ganddynt y galluedd i wneud y penderfyniad perthnasol
  • Nid oes ganddynt unrhyw deulu neu gyfeillion sy’n gallu helpu neu sy’n barod i helpu
  • Mae ganddynt anghenion yn ymwneud â llety neu driniaeth feddygol ddifrifol
  • Neu mae angen eu diogelu
  • Neu maent angen cael adolygiad cymorth mewn gofal
  • Neu mae cais wedi’i wneud am awdurdodaeth Dols (Amddifadu o Ryddid) iddynt a elwir yn IMCA 39A

Rhaid i’n IMCA dderbyn cyfarwyddyd a bod yn rhan o’r broses i gefnogi unigolyn:

  • Pan fydd un o gyrff y GIG yn cynnig darparu, dal yn ôl neu stopio triniaeth feddygol ddifrifol
  • Pan fydd adolygiadau gofal i bobl mewn llety’n cael eu trefnu gan yr awdurdod lleol
  • Pan fydd adolygiadau’n cael eu gwneud gan y GIG i bobl sy’n derbyn Gofal Iechyd Parhaus
  • Pan fydd adolygiadau cynllun gofal yn cael eu gwneud i gleifion mewnol

Sut ydw i’n cyfeirio rhywun? Rydym yn derbyn cyfeiriadau gan bobl broffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae modd gwneud hyn dros y ffôn, ffacs neu e-bost.

Mae’r dudalen hon ar gael yn: English

  • 9.00am – 4.30pm Llun
  • 9.00am – 4.30pm Mawrth
  • 9.00am – 4.30pm Mercher
  • 9.00am – 4.30pm Iau
  • 9.00am – 4.30pm Gwener

Copyright © 2022 Conwy and Denbighire Mental Health Advocacy Service. All rights reserved.

Colony of Ants Web Design and Development