Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn gofyn bod unrhyw berson sy’n derbyn awdurdodaeth safonol ar gyfer amddifadu o ryddid (DoLs), yn cael cynrychiolydd a alwn yn Gynrychiolydd Pobl Berthnasol. Mae hwn neu hon yn cael eu penodi gan gorff goruchwylio. Y Corff Goruchwylio yw naill ai’r awdurdod lleol neu’r bwrdd iechyd lleol. Mae ein Cynrychiolydd Pobl Berthnasol yn cefnogi unigolion sydd wedi cael eu hamddifadu o ryddid, os nad oes aelod o’r teulu, cyfaill neu ofalwr sy’n gallu, neu’n sy’n barod i wneud y rôl.
Beth yw Rôl Cynrychiolydd Pobl Berthnasol Cyflogedig?
Rôl y Cynrychiolydd Pobl Berthnasol Cyflogedig yw:
- Cadw cysylltiad rheolaidd gyda’r person perthnasol.
- Cynrychioli a chefnogi’r person perthnasol ymhob mater sy’n ymwneud â’r safon amddifadu o ryddid.
- Sbarduno adolygiad.
- Os bydd angen, herio awdurdodaeth drwy gyfrwng lleol, lle bo modd. Neu, yn y pen draw, gyfeirio’r achos i’r Llys Gwarchod.
Sut ydw i’n cyfeirio rhywun?
Rydym yn derbyn cyfeiriadau gan bobl broffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ar ôl gwneud asesiad o alluedd.
Mae’r dudalen hon ar gael yn: English