Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (Prentisiaeth Oedolion)
37 awr yr wythnos
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â chymhwyster prentisiaeth Lefel 4 mewn Eiriolaeth Annibynnol
https://www.gcstraining.co.uk/level-4-independent-advocacy-new
Sefydlwyd CADMHAS yn 2007 ac mae’n darparu gwasanaethau cefnogaeth eiriolaeth, eiriolaeth statudol (Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ac Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol) a gwasanaethau Cynrychioli Personau Perthnasol ar draws Gogledd Cymru a Phowys.
Rydym am benodi EIMA (Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol) i ymuno â’n cynllun prentisiaeth. Bydd y cynllun, sy’n agored i ymgeiswyr o bob oedran (dros 16 oed) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddilyn cwrs Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4 (gan fynychu’r coleg yn rhithiol dau ddiwrnod y mis.) Bydd yr amser sy’n weddill yn cael ei rannu rhwng cwblhau gwaith cwrs a gwaith achos ymarferol. Rydym yn chwilio am un person i weithio yn bennaf yng Ngwynedd, Ynys Môn, Sir Conwy a Sir Dinbych.
Yn Atebol I: | Y Prif Eiriolwr, sy’n atebol i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau. |
Yn Gweithio Gyda: | Staff, gwirfoddolwyr a chleientiaid CADMHAS |
Lleoliad: | Cartrefol - yng Ngwynedd, Ynys Môn, Sir Conwy a Sir Dinbych |
Oriau o Waith: | Yng Ngwynedd, Ynys Môn, Sir Conwy a Sir Dinbych yn bennaf ond mae angen gweithio ledled y rhanbarth i gyflenwi pan fo angen |
Maes Gwaith: | Yng Ngwynedd, Ynys Môn, Sir Conwy a Sir Dinbych yn bennaf ond mae angen gweithio ledled y rhanbarth i gyflenwi pan fo angen |
Nodau'r Post: | Gweithio fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA) statudol yn unol â diffiniad y rôl o dan Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel diwygiwyd, yn fwyaf diweddar gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007) |
Cydnabyddiaeth: | Y cyflog cychwynnol ar gyfer y swydd yw £23,401 pro rata y flwyddyn, gan symud i £24,793 pro rata pan gyflawnir y Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol. CADMHAS fydd yn talu am hyn. |
Oriau: | Bydd CADMHAS yn cyfrannu, unwaith y bydd y cyfnod prawf wedi’i gwblhau, sy’n cyfateb i 3% o’r cyflog tuag at Gynllun Pensiwn y Llywodraeth. Telir costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chyfraddau cytunedig CADMHAS. |
Gwyliau Blynyddol: | Yr hawl i wyliau yw 37 diwrnod y flwyddyn pro rata, gan gynnwys yr holl Wyliau Banc. |
Bydd cyfnod prawf o 3 mis yn cychwyn o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth. Bydd y swydd yn destun gwiriad DBS manylach
Disgrifiad Swydd – Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (Prentisiaeth Oedolion)
Prif Ddyletswyddau:
Gweithio fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol ynyng Ngwynedd, Ynys Môn, Sir Conwy a Sir Dinbych i CADMHAS. Bydd gwaith yn cael ei wneud o amrywiaeth o leoliadau fel y nodir gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau.
Bydd hyn yn cynnwys:
• Darparu gwasanaeth eiriolaeth, sy’n rhad ac am ddim, yn annibynnol ac yn gyfrinachol.
• Sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn ymwybodol o’u hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
• Darparu cynrychiolaeth i gleientiaid mewn amrywiaeth eang o leoliadau.
• Cefnogi cleientiaid sy’n dymuno cynrychioli eu diddordebau eu hunain.
• Casglu data a gwybodaeth berthnasol ar gyfer monitro’r gwasanaeth.
• Darparu gwybodaeth gytbwys am faterion perthnasol.
Mae’r dyletswyddau a amlinellir uchod yn ganllaw i brif gyfrifoldebau’r swydd. Efallai y bydd angen eu hadolygu yn ystod oes y swydd. Bydd unrhyw newidiadau mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd.
Cyffredinol:
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd naill ai feddu ar Ddiploma mewn Eiriolaeth Annibynnol eisoes, neu fod wedi’i hennill o fewn 12 mis, gan gynnwys modiwlau arbenigol EIMA.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fynychu digwyddiadau hyfforddi o’r fath y nodir eu bod o werth i’w rôl naill ai gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau neu eu hunain drwy oruchwylio ac arfarnu. Bydd y swydd hon yn y cartref gyda theithio i wahanol leoliadau Siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Sir Conwy a Sir Dinbych.
Manyleb Person
Ystyrir bod y canlynol yn hanfodol:
• Dealltwriaeth o eiriolaeth
• Dealltwriaeth o’r materion y mae pobl â phroblem iechyd meddwl yn eu hwynebu
• Agwedd gadarnhaol, anfeirniadol at, ac empathi â phobl â phroblemau iechyd meddwl
• Dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, gynnwys a grymuso’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth
• Y gallu i weithio mewn ffordd sy’n grymuso pobl
• Y gallu i ysgogi eich hun ac yn drefnus – gallu rheoli eich amser a chario eich llwyth achosion
• Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrediad eang o bobl
• Y gallu i gysylltu â phersonél ar bob lefel o strwythurau rheoli
• Sgiliau negodi
• Y gallu i weithio’n annibynnol ac ar y cyd ag eraill
• Sgiliau ysgrifennu adroddiadau/cadw cofnodion – Y gallu i ysgrifennu’n glir ac yn gryno mewn llythyrau ac adroddiadau
• Prosesu geiriau sylfaenol/sgiliau cyfrifiadurol/Y gallu i ddefnyddio cronfa ddata
• Perchennog / gyrrwr car
• Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg
Ystyrir bod y canlynol yn ddymunol:
• Profiad ym maes iechyd meddwl mewn swydd gyflogedig/gwirfoddol neu fel gofalwr neu ddefnyddiwr gwasanaethau
• Wedi cwblhau’r Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol
• Profiad o waith eiriolaeth
• Profiad yn y sector gwirfoddol
Ceisiadau:
• Ni dderbynnir CV. Bydd angen gofyn am ffurflenni cais o swyddfa CADMHAS drwy e-bostio admin@cadmhas.co.uk neu ffonio’r swyddfa ar 01745 813999.
• Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Mehefin 2023. Gellir e-bostio’r ceisiadau i admin@cadmhas.co.uk neu eu postio i CADMHAS, 94 Cwrt Bowen, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JE
Mae’r dudalen hon ar gael yn: English