Mae gan ein Cynrychiolwyr Pobl Berthnasol (RPR) Cyflogedig wybodaeth arbenigol am y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r ddeddfwriaeth am Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Mae Deddf Galluedd Meddyliol (MCA) 2005 yn nodi hyn: unwaith y bydd awdurdodiad safonol o dan y Canllawiau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DOLs) wedi cael ei gymeradwyo, mae’n rhaid i’r corff goruchwylio (corff o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu’r awdurdod lleol) benodi cynrychiolydd person perthnasol (RPR) gynted ag y bo modd, a chyn gynted ag y bo’n ymarferol, i gynrychioli’r unigolyn sydd wedi colli ei ryddid.
Y Rôl
Rôl y Cynrychiolydd Pobl Berthnasol Cyflogedig yw:
- Cadw cysylltiad gyda’r person perthnasol, yn fisol os oes modd, ac anfon adroddiad am yr ymweliad at y Corff Goruchwylio ar ôl pob ymweliad.
- Cynrychioli a chefnogi’r person perthnasol ymhob mater sy’n ymwneud â’r safon colli rhyddid.
- Pan fydd cleient yn protestio neu’n ymddangos fel pe bai’n protestio yn erbyn eu lleoliad, dod â chais i’r Llys Gwarchod o dan adran 21A y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Mae’r dudalen hon ar gael yn: English