Gall ein heiriolwyr yn CADMHAS gynnig amrywiaeth gyflawn o wasanaethau sydd wedi eu rhestru isod:
Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol
Mae gan ein heiriolwyr y gallu a’r cymwysterau llawn i gefnogi pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl, sy’n byw yn y gymuned. Gall ein heiriolwyr wrando ar bryderon unigolion a rhoi gwybodaeth iddynt am eu hawliau, am gyfraith iechyd meddwl, am fudd-daliadau, a llawer iawn mwy. Gallent eich helpu i gael cyngor gan asiantaethau sy’n rhoi arweiniad, a chefnogi eich claf i ystyried pa opsiynau sydd ganddo/ganddi a chyfranogi fwy at y penderfyniadau a wneir am ei fywyd/bywyd. Er mwyn i’n heiriolwyr ddarparu’r gwasanaeth yma, mae’n rhaid i gleientiaid ateb y meini prawf a ganlyn:
- Rhaid iddynt fyw yng Nghonwy neu Sir Ddinbych
- Os ydynt yn byw mewn cartref gofal, mae’n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod wedi eu rhoi nhw yno
- Rhaid iddynt fod yn 18 oed o leiaf
- Rhaid iddynt allu uniaethu gyda dioddef problemau iechyd meddwl
Ni allwn roi gwasanaeth i: Unigolion sydd wedi symud i siroedd Conwy a Dinbych sydd wedi’u hunan-ariannu
Sut ydw i’n cyfeirio rhywun?
I wneud cyfeiriad uniongyrchol drwy’r wefan hon, ewch i’r dudalen hon, lawrlwythwch ein ffurflen gyfeirio ac anfonwch e-bost i admin@cadmhas.co.uk Cysylltwch â’n heiriolwyr i roi cyfeiriad dros y ffôn ar 01745 813999 yn ystod oriau’r swyddfa.
Mae’r dudalen hon ar gael yn: English