Mae gwasanaeth eiriolaeth gymunedol newydd yn cael ei darparu yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Darperir y gwasanaeth mewn partneriaeth gan GACGC (NWAAA) a CADMHAS.
Pwy sy’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn?
Oedolion sy’n byw yng Ngwynedd ac Ynys Môn, lle nad yw eu hangen a nodwyd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer unrhyw fath o eiriolaeth statudol, ond sydd angen cefnogaeth eiriolaeth mewn perthynas â mater iechyd a gofal cymdeithasol, i’w hatal rhag gwaethygu ac o bosibl arwain at argyfwng.
Bydd y gwasanaeth yn gweithio gyda:
- Oedolion gyda phroblemau iechyd meddwl,
- Oedolion gydag anawsterau dysgu,
- Oedolion ag anableddau corfforol a synhwyraidd,
- Pobol hŷn,
- Oedolion sydd wedi cael anafiadau i’r ymennydd.
Pwy sydd ddim yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth?
Unrhyw un sy’n gymwys ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth statudol e.e. EIMA, EGMA, EPA
Nid yw’r gwasanaeth yn darparu’r mathau canlynol o eiriolaeth:
- Eiriolaeth i blant a phobl ifanc (Dan 18 oed (16+ os yw’n agored i CAMHS),
- Eiriolaeth yn ymwneud ag achosion amddiffyn plant a gofal plant,
- Eiriolaeth cwynion annibynnol y GIG,
- Eiriolaeth i ddioddefwyr cam-drin domestig,
- Eiriolaeth i’r rhai sy’n profi cyfnodau seicotig aciwt.
Pa cymorth gall y gwasanaeth eiriolaeth cynnig?
- Cefnogi pobol gyda materion penodol, gan sicrhau eu bod yn gwybod eu hawliau, eu helpu i ddeall opsiynau, gwneud dewisiadau gwybodus a chymryd camau i fynegi eu barn a’u dymuniadau.
- Darparu a chefnogi pobol i ddeall gwybodaeth berthnasol am eu materion.
- Cymhorthi iddynt gael mynediad i, a deall, gwasanaethau cynghori cyffredinol ac arbenigol lle bo angen.
- Cynorthwyo pobol i siarad â thrydydd parti, neu i siarad â nhw ar eu rhan – gallai hyn gynnwys helpu person i ysgrifennu llythyr neu e-bost, cymorth i wneud galwadau ffôn neu gymorth i baratoi ar gyfer a mynychu cyfarfodydd gydag unigolyn.
Sut i atgyfeirio unigolion ar eu rhan
Ymdrinnir â phob atgyfeiriad gan GACGC.
Rhaid i berson roi ei ganiatâd i gael ei atgyfeirio. Byddwn yn cymryd atgyfeiriadau ar gyfer unigolion gan:
- Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
- Gofalwyr ac aelodau o’r teulu/ffrindiau
- Unrhyw sefydliadau gwirfoddol/cymunedol
Gellir gwneud atgyfeiriadau i NWAAA gan ddefnyddio ein ffurflen atgyfeirio sydd ar gael ar www.nwaaa.wales neu drwy e-bostio enquiry@nwaaa.co.uk
Hunan-atgyfeiriadau
Gall unrhyw unigolyn atgyfeirio ei hun i’r gwasanaeth naill ai drwy ffonio 01248 670852 neu e-bostio enquiry@nwaaa.co.uk
Rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth
Bydd taflenni a phosteri yn cael eu darparu i ledaenu gwybodaeth am y gwasanaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgôp neu waith y gwasanaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01248 670852 neu enquiry@nwaaa.co.uk.
Rydym yn hapus i ddarparu sesiynau briffio yn bersonol neu ar-lein i dimau sydd eisiau gwybod mwy am y gwasanaeth.
Mae’r dudalen hon ar gael yn: English