Gall CADMHAS gynnig hyfforddiant i Dimau Iechyd Meddwl, Pobl Broffesiynol mewn Gofal Iechyd, a Staff Cartrefi Gofal am y gwasanaethau a gynigiwn a’r ddeddfwriaeth y mae gofyn inni gadw ati.
Gall ein heiriolwyr roi hyfforddiant mewnol yn y pynciau nesaf yma:
- Gwybodaeth am y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r Ddeddf Iechyd Meddwl, y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a threfniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (Dols)
- Manylion am rôl Eiriolwyr Galluedd Meddwl Annibynnol (IMCA), Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHA), Cynrychiolwyr Pobl Berthnasol, Cyfeillion Cyfreitha ac Eiriolwyr Iechyd Meddwl Cymunedol.
- Sut i gyfeirio pobl i’n gwasanaeth.
- Manylion am y meini prawf sy’n ofynnol i wneud cyfeiriad at rai o’r gwasanaethau
Os byddwch eisiau gwneud cais am hyfforddiant mae croeso i chi ein ffonio ar: 01745 813999
Mae’r dudalen hon ar gael yn: English