Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (Prentisiaeth Oedolion)
37 awr yr wythnos
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â chymhwyster prentisiaeth Lefel 4 mewn Eiriolaeth Annibynnol
https://www.gcstraining.co.uk/level-4-independent-advocacy-new
Sefydlwyd CADMHAS yn 2007 ac mae’n darparu gwasanaethau cefnogaeth eiriolaeth, eiriolaeth statudol (Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ac Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol) a gwasanaethau Cynrychioli Personau Perthnasol ar draws Gogledd Cymru a Phowys.
Rydym am benodi EIMA (Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol) i ymuno â’n cynllun prentisiaeth. Bydd y cynllun, sy’n agored i oedolion o bob oedran, yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddilyn cwrs Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4 (gan fynychu’r coleg yn rhithiol dau ddiwrnod y mis.) Bydd yr amser sy’n weddill yn cael ei rannu rhwng cwblhau gwaith cwrs a gwaith achos ymarferol. Rydym yn chwilio am dau person i weithio yn bennaf yn Siroedd Gwynedd ac Ynys Mon mewn un post, a Siroedd Fflint a Wrecsam yn y llall.
| Yn Atebol I: | Y Prif Eiriolwr, sy’n atebol i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau. |
| Yn Gweithio Gyda | Staff, gwirfoddolwyr a chleientiaid CADMHAS |
| Lleoliad | Cartrefol - Siroedd Gwynedd ac Ynys Mon mewn un post, a Siroedd Fflint a Wrecsam yn y llall. |
| Oriau o Waith | Mae’r swydd hon yn 37 awr yr wythnos |
| Meas Gwaith | Siroedd Gwynedd ac Ynys Mon mewn un post, a Siroedd Fflint a Wrecsam yn y llall. yn bennaf ond mae angen gweithio ledled y rhanbarth i gyflenwi pan fo angen |
| Nodau'r Post | Gweithio fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA) statudol yn unol â diffiniad y rôl o dan Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel diwygiwyd, yn fwyaf diweddar gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007) |
| Cydnabyddiaeith: | Y cyflog cychwynnol ar gyfer y swydd yw £23,401 pro rata y flwyddyn, gan symud i £24,793 pro rata pan gyflawnir y Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol. CADMHAS fydd yn talu am hyn. Bydd CADMHAS yn cyfrannu, unwaith y bydd y cyfnod prawf wedi’i gwblhau, sy’n cyfateb i 3% o’r cyflog tuag at Gynllun Pensiwn y Llywodraeth. Telir costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chyfraddau cytunedig CADMHAS. |
| Oriau: | Wythnos waith llawn amser yw 37 awr (ac eithrio awr ginio). Nid yw goramser yn daladwy ond gellir cymryd amser i ffwrdd yn lle hynny ar amser sy’n gyfleus i bawb |
| Gwyliau Blynyddol | Yr hawl i wyliau yw 37 diwrnod y flwyddyn pro rata, gan gynnwys yr holl Wyliau Banc |
Bydd cyfnod prawf o 3 mis yn cychwyn o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth. Bydd y swydd yn destun gwiriad DBS manylach
Disgrifiad Swydd – Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (Prentisiaeth Oedolion)
Prif Ddyletswyddau:
Gweithio fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol yn Siroedd Gwynedd ac Ynys Mon i CADMHAS. Bydd gwaith yn cael ei wneud o amrywiaeth o leoliadau fel y nodir gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau.
Bydd hyn yn cynnwys:
- Darparu gwasanaeth eiriolaeth, sy’n rhad ac am ddim, yn annibynnol ac yn gyfrinachol.
- Sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn ymwybodol o’u hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
- Darparu cynrychiolaeth i gleientiaid mewn amrywiaeth eang o leoliadau.
- Cefnogi cleientiaid sy’n dymuno cynrychioli eu diddordebau eu hunain.
- Casglu data a gwybodaeth berthnasol ar gyfer monitro’r gwasanaeth.
- Darparu gwybodaeth gytbwys am faterion perthnasol.
Mae’r dyletswyddau a amlinellir uchod yn ganllaw i brif gyfrifoldebau’r swydd. Efallai y bydd angen eu hadolygu yn ystod oes y swydd. Bydd unrhyw newidiadau mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd.
Cyffredinol:
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd naill ai feddu ar Ddiploma mewn Eiriolaeth Annibynnol eisoes, neu fod wedi’i hennill o fewn 12 mis, gan gynnwys modiwlau arbenigol EIMA. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fynychu digwyddiadau hyfforddi o’r fath y nodir eu bod o werth i’w rôl naill ai gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau neu eu hunain drwy oruchwylio ac arfarnu. Bydd y swydd hon yn y cartref gyda theithio i wahanol leoliadau Siroedd Gwynedd ac Ynys Mon ar gyfer un post, a Siroedd Fflint a Wrecsam ar gyfer y llall.
Manyleb Person
Ystyrir bod y canlynol yn hanfodol:
- Dealltwriaeth o eiriolaeth
- Dealltwriaeth o’r materion y mae pobl â phroblem iechyd meddwl yn eu hwynebu
- Agwedd gadarnhaol, anfeirniadol at, ac empathi â phobl â phroblemau iechyd meddwl
- Dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, gynnwys a grymuso’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth
- Y gallu i weithio mewn ffordd sy’n grymuso pobl
- Y gallu i ysgogi eich hun ac yn drefnus – gallu rheoli eich amser a chario eich llwyth achosion
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrediad eang o bobl
- Y gallu i gysylltu â phersonél ar bob lefel o strwythurau rheoli
- Sgiliau negodi
- Y gallu i weithio’n annibynnol ac ar y cyd ag eraill
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau/cadw cofnodion – Y gallu i ysgrifennu’n glir ac yn gryno mewn llythyrau ac adroddiadau
- Prosesu geiriau sylfaenol/sgiliau cyfrifiadurol/Y gallu i ddefnyddio cronfa ddata
- Perchennog / gyrrwr car.
- Ystyrir bod y canlynol yn ddymunol iawn:
- Profiad ym maes iechyd meddwl mewn swydd gyflogedig/gwirfoddol neu fel gofalwr neu ddefnyddiwr gwasanaethau
- Wedi cwblhau’r Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol
- Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg (dymunol iawn yng Ngwynedd ac Ynys Môn, dymunol yn Siroedd Fflint a Wrecsam) a’r Saesneg
- Profiad o waith eiriolaeth
- Profiad yn y sector gwirfoddol
- Gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg a Mathemateg.
Ystyrir bod y canlynol yn ddymunol iawn:
- Profiad ym maes iechyd meddwl mewn swydd gyflogedig/gwirfoddol neu fel gofalwr neu ddefnyddiwr gwasanaethau
- Wedi cwblhau’r Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol
- Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg (dymunol iawn yng Ngwynedd ac Ynys Môn, dymunol yn Siroedd Fflint a Wrecsam) a’r Saesneg
- Profiad o waith eiriolaeth
- Profiad yn y sector gwirfoddol
Ceisiadau:
- Ni dderbynnir CV. Bydd angen gofyn am ffurflenni cais o swyddfa CADMHAS drwy e-bostio admin@cadmhas.co.uk neu ffonio’r swyddfa ar 01745 813999. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 28ain Mawrth 2024.
- Gellir e-bostio’r ceisiadau i admin@cadmhas.co.uk neu eu postio i CADMHAS, 94 Cwrt Bowen, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JE
Ceir disgrifiad llawn o’r swydd yma



