• Hafan
  • Amdanom
    • Hanes
    • Beth yw eiriolaeth?
    • Ein Datganiad Cenhadaeth a’n Gwerthoedd
    • Ein safleoedd
    • Cwynion
    • Argyfwng – Cymorth
  • Cymorth i Chi
    • Y Bobl a Gefnogwn
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Sir Conwy a Sir Ddinbych
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Gwynedd ac Ynys Môn
    • Eiriolaeth Galluedd Meddwl Annibynnol
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol
    • Cynrychiolydd Pobl Berthnasol
  • Cymorth i Bobol Broffesiynol
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Sir Conwy a Sir Ddinbych
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Gwynedd ac Ynys Môn
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol i Bobl Broffesiynol
    • Hyfforddiant i Bobl Broffesiynol
    • Cynrychiolwyr Pobl Berthnasol i Bobl Broffesiynol
    • Y Ddeddfwriaeth
  • Ffurflenni Atgyfeirio
    • Ffurflen Ymholiad Cymunedol
    • Ffurflen Atgyfeirio EGMA
    • Ffurflen Atgyfeirio EIMA
  • Swyddi a Newyddion
    • Swyddi Gwag
  • Cyswllt
    • Argyfwng – Cymorth

CADMHAS

CADMHAS Advocacy for people with Mental Health Issues

  • Email
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Twitter
Rydych yma:Home / Swyddi Gwag / Prentisiaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA) – Conwy a Sir Ddinbych

Prentisiaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA) – Conwy a Sir Ddinbych

DISGRIFIAD SWYDD

Prentisiaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA) – Llawn Amser 30 awr

BYDD ANGEN I’R YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YMGYMRYD Â CHYMWYSTERAU PRENTISIAETH LEFEL 4 MEWN EIRIOLAETH ANNIBYNNOL

https://www.gcstraining.co.uk/level-4-independent-advocacy-new

Mae CADMHAS yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig.

Sefydlwyd CADMHAS yn 2007 ac mae’n ddarparu gwasanaethau cefnogaeth eiriolaeth, eiriolaeth statudol (Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ac Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol) a gwasanaethau Cynrychioli Personau Perthnasol ar draws Gogledd Cymru a Phowys.

Rydym yn penodi un EGMA llawn amser (37 awr yr wythnos) i ymuno a’n cynllun prentisiaeth. Gofyniad y cynllun yw bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cwblhau cwrs Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4, trwy fynychu coleg yn rhithiol dau ddiwrnod y mis. Bydd gweddill yr amser yn cael ei rhannu rhwng cwblhau gwaith cwrs a gwaith achos ymarferol, gan gychwyn gweithio ar achosion yn ymwneud a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS) ac eiriolaeth yn y gymuned.

Yn Atebol I:Dirprwy ac Uwch Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol, sy'n atebol i Gyfarwyddwr Gwasanaethau CADMHAS.
Yn Gweithio Gyda:Staff a gwirfoddolwyr CADMHAS. Defnyddwyr gwasanaethau CADMHAS. Cydweithwyr mewn asiantaethau statudol ac anstatudol.
Lleoliad:Gweithio o gartref ac yn y gymuned. Rydym yn awyddus i benodi un EGMA llawn amser i’r tîm, i weithio yn Sir Conwy a Sir Ddinbych (siaradwr Cymraeg yn ddymunol), Bydd angen i chi deithio ledled yr ardal yr ydych wedi'ch lleoli ynddi, felly mae trwydded yrru yn hanfodol i deithio ond efallai y bydd angen i chi weithio mewn ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru o bryd i'w gilydd.
Nod y Swydd:I weithio fel Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol.
Cydnabyddiaeth:Y cyflog ar gyfer y swydd yw £23,401 y flwyddyn gan godi i £24,793 ar ôl cwblhau'r Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol. Bydd CADMHAS yn cydymffurfio â dyletswyddau pensiwn y cyflogwr mewn perthynas â’r gweithiwr yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Pensiwn 2008.
Oriau:Yr wythnos waith ar gyfer y swydd hon yw 37 awr (ac eithrio awr ginio). Nid yw goramser yn daladwy ond gellir cymryd amser i ffwrdd yn lle hynny ar amser sy'n gyfleus i bawb. Efallai y bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar y penwythnos yn achlysurol iawn
Gwyliau Blynyddol:Hawl gwyliau yw 37 diwrnod y flwyddyn gan gynnwys yr holl Wyliau Banc.
Gwybodaeth Ychwanegol:Bydd cyfnod prawf o 6 mis yn cychwyn o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth. Bydd y swydd yn destun gwiriad DBS manylach.

Prif Dasgau a Chyfrifoldebau:

Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol:

  • Darparu gwasanaethau EGMA ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth unigol fel y diffinnir gan raglen waith y gwasanaeth,
  • Darparu gwasanaeth EGMA i bobol sydd â phroblemau galluedd meddyliol fel y’u diffinnir yn y Deddf Galluedd Meddyliol 2005,
  • Darparu gwasanaeth annibynnol a cyfrinachol,
  • I gynrychioli a chefnogi’r person ym mhob mater perthnasol i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol:
    • Triniaeth Meddygol Difrifol,
    • Adolygiadau Gofal,
    • Newidiadau mewn sefyllfa llety,
    • Diogelu,
    • Amddifadu o Ryddid.
  • Ysgrifennu adroddiad terfynol yn manylu ar ymweliadau neu gysylltiadau a wnaed ar ran y person sy’n cael ei gefnogi,
  • Hyrwyddo CADMHAS mewn mentrau, ar y cyd ac asiantaethau eraill, sy’n digwydd yn yr ardal ac unrhyw waith cysylltiadau cyhoeddus arall a fydd yn hyrwyddo’r cynllun, ei waith a’i athroniaeth yn gadarnhaol.

Gweinyddiaeth:

  • Datblygu gwybodaeth ymarferol o systemau gweinyddol yn ymwneud â CADMHAS,
  • Cynnal a diogelu’r holl wybodaeth ac eiddo a gedwir ar bas-data CADMHAS.
  • I gyflwyno adroddiadau ysgrifenedig pan ofynnir amdanynt.

Bydd y tasgau canlynol yn cael eu cyflawni, gan ddibynnu ar yr amser sydd ar gael ac o dan gyfarwyddyd y rheolwr llinell.

  • Cynrychioli safbwyntiau CADMHAS ar amrywiaeth o bwyllgorau fel y gofynnir a chytunwyd gan y ddirprwy a rheolwyr,
  • Cymryd rhan yn y gwaith o gasglu gwybodaeth leol,
  • Cynorthwyo i gasglu data sydd ei angen ar gyfer gwerthuso a monitro pob agwedd ar y prosiect.

Cyffredinol:

  • Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fynychu digwyddiadau hyfforddi o’r fath a nodir fel rhai sydd o werth i’w rôl, naill ai gan y Rheolwr Gwasanaeth neu eu hunain trwy oruchwylio a gwerthuso,
  • Bydd blaenoriaethau ar gyfer gwaith yr EGMA yn unol â rhaglenni datblygu a gwaith y gwasanaeth. Bydd gwaith yr EGMA yn cael ei fonitro’n agos ar ran y Bwrdd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau.

Nid yw’r dyletswyddau a amlinellir uchod yn holl gynhwysfawr, ond maent yn ganllaw i brif gyfrifoldebau’r swydd. O ystyried hyn, bydd y disgrifiad swydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd ac efallai y bydd angen ei newid. Bydd newidiadau o’r fath mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd.

MANYLEB PERSON

CYNRYCHIOLYDD PERSON PERTHNASOL

Ystyrir bod y canlynol yn hanfodol:

  • Y gallu i ddarparu cynrychiolaeth a chefnogaeth i gleientiaid mewn amrywiaeth eang o leoliadau, i amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau,
  • Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gynnwys a grymuso defnyddwyr gwasanaeth,
  • Sgiliau cyfathrebu da ar ran pobol eraill,
  • Sgiliau da mewn gwrando,
  • Sgiliau negodi,
  • Tystysgrif TGAU gradd C neu uwch (neu gyfwerth) mewn Mathemateg a Iaith Saesneg, neu baratoad hanfodol i gwblhau’r sgiliau hanfodol hyn os nad ydynt wedi gwneud hynny
  • Profiad o weithio fel rhan o dîm a gweithio’n annibynnol,
  • Y gallu i weithio mewn ffordd sy’n grymuso pobol,
  • Rhaid meddu ar drwydded yrru lawn gyfredol a bod â mynediad at gerbyd y gallant ei ddefnyddio i’w galluogi i ymweld â defnyddwyr gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen,
  • Parodrwydd i ddatblygu gyda’r sefydliad,
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau/cadw cofnodion,
  • Y gallu i ddefnyddio pecynnau prosesu geiriau, mewnbynnu gwybodaeth i gronfa ddata a gwneud ymchwil ar y rhyngrwyd,
  • Hyblygrwydd a brwdfrydedd.

Ystyrir y canlynol yn ddymunol:

  • Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi yma.
  • Meddu ar ddealltwriaeth o rôl yr EGMA fel y nodir yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 ond bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu fel rhan o’r cynllun prentisiaeth.
  • Dymunol – Profiad ym maes mater galluedd meddyliol mewn gallu â thâl/gwirfoddol neu fel gofalwr neu ddefnyddiwr gwasanaethau.

Ceisiadau:

  • Ni fydd CV yn cael ei derbyn. Bydd angen gofyn am ffurflenni cais o swyddfa CADMHAS drwy e-bostio admin@cadmhas.co.uk,
  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19eg Ionawr 2024. Gellir e-bostio’r ceisiadau i admin@cadmhas.co.uk neu eu postio i CADMHAS, 94 Cwrt Bowen, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JE.
  • Cynhelir cyfweliadau yn CADMHAS, 94 Cwrt Bowen, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JE

Mae fersiwn PDF o’r disgrifiad swydd ar gael yma

  • 9.00am – 4.30pm Llun
  • 9.00am – 4.30pm Mawrth
  • 9.00am – 4.30pm Mercher
  • 9.00am – 4.30pm Iau
  • 9.00am – 4.30pm Gwener

Copyright © 2026 CADMHAS. All rights reserved.

Colony of Ants Web Design and Development