• Hafan
  • Amdanom
    • Hanes
    • Beth yw eiriolaeth?
    • Ein Datganiad Cenhadaeth a’n Gwerthoedd
    • Ein safleoedd
    • Cwynion
    • Argyfwng – Cymorth
  • Cymorth i Chi
    • Y Bobl a Gefnogwn
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Sir Conwy a Sir Ddinbych
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Gwynedd ac Ynys Môn
    • Eiriolaeth Galluedd Meddwl Annibynnol
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol
    • Cynrychiolydd Pobl Berthnasol
    • Cyfeillion Cyfreitha
    • Cymorth ar gyfer Bobol Ifanc
  • Cymorth i Bobol Broffesiynol
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Sir Conwy a Sir Ddinbych
    • Eiriolaeth Iechyd Meddwl Cymunedol – Gwynedd ac Ynys Môn
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol i Bobl Broffesiynol
    • Hyfforddiant i Bobl Broffesiynol
    • Cynrychiolwyr Pobl Berthnasol i Bobl Broffesiynol
    • Y Ddeddfwriaeth
  • Ffurflenni Atgyfeirio
    • Ffurflen Atgyfeirio Cymunedol
    • Ffurflen Atgyfeirio EGMA
    • Ffurflen Atgyfeirio EIMA
  • Swyddi a Newyddion
    • Swyddi Gwag
  • Cyswllt
    • Argyfwng – Cymorth
  • English
  • Cymraeg

CADMHAS

CADMHAS Advocacy for people with Mental Health Issues

  • Email
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Twitter
Rydych yma:Home / Swyddi Gwag / Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (Prentisiaeth Oedolion) – Canolbarth Gogledd

Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (Prentisiaeth Oedolion) – Canolbarth Gogledd

Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (Prentisiaeth Oedolion)

37 awr yr wythnos

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â chymhwyster prentisiaeth Lefel 4 mewn Eiriolaeth Annibynnol
https://www.gcstraining.co.uk/level-4-independent-advocacy-new

Sefydlwyd CADMHAS yn 2007 ac mae’n darparu gwasanaethau cefnogaeth eiriolaeth, eiriolaeth statudol (Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ac Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol) a gwasanaethau Cynrychioli Personau Perthnasol ar draws Gogledd Cymru a Phowys.

Rydym am benodi EIMA (Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol) i ymuno â’n cynllun prentisiaeth. Bydd y cynllun, sy’n agored i ymgeiswyr o bob oedran (dros 16 oed) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddilyn cwrs Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4 (gan fynychu’r coleg yn rhithiol dau ddiwrnod y mis.) Bydd yr amser sy’n weddill yn cael ei rannu rhwng cwblhau gwaith cwrs a gwaith achos ymarferol. Rydym yn chwilio am un person i weithio yn bennaf yn Siroedd Conwy a Dinbych.

Yn Atebol I:Y Prif Eiriolwr, sy’n atebol i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau.
Yn Gweithio Gyda:Staff, gwirfoddolwyr a chleientiaid CADMHAS
Lleoliad:Cartrefol - Siroedd Conwy a Dinbych
Oriau o Waith:Mae’r swydd hon yn 37 awr yr wythnos
Maes Gwaith:Siroedd Conwy a Dinbych yn bennaf ond mae angen gweithio ledled y rhanbarth i gyflenwi pan fo angen
Nodau'r Post:Gweithio fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA) statudol yn unol â diffiniad y rôl o dan Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel diwygiwyd, yn fwyaf diweddar gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007)
Cydnabyddiaeth:Y cyflog cychwynnol ar gyfer y swydd yw £23,401 pro rata y flwyddyn, gan symud i £24,793 pro rata pan gyflawnir y Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol. CADMHAS fydd yn talu am hyn.
Bydd CADMHAS yn cyfrannu, unwaith y bydd y cyfnod prawf wedi’i gwblhau, sy’n cyfateb i 3% o’r cyflog tuag at Gynllun Pensiwn y Llywodraeth. Telir costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chyfraddau cytunedig CADMHAS.
Oriau:Wythnos waith llawn amser yw 37 awr, mae’r swydd hon am 37 awr yr wythnos (ac eithrio awr ginio). Nid yw goramser yn daladwy ond gellir cymryd amser i ffwrdd yn lle hynny ar amser sy’n gyfleus i bawb. Efallai y bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar y penwythnos yn achlysurol iawn.
Gwyliau Blynyddol:Yr hawl i wyliau yw 37 diwrnod y flwyddyn pro rata, gan gynnwys yr holl Wyliau Banc.

Bydd cyfnod prawf o 3 mis yn cychwyn o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth. Bydd y swydd yn destun gwiriad DBS manylach

Disgrifiad Swydd – Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (Prentisiaeth Oedolion)

Prif Ddyletswyddau:

Gweithio fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol yn Siroedd Conwy a Dinbych i CADMHAS. Bydd gwaith yn cael ei wneud o amrywiaeth o leoliadau fel y nodir gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau.

Bydd hyn yn cynnwys:
• Darparu gwasanaeth eiriolaeth, sy’n rhad ac am ddim, yn annibynnol ac yn gyfrinachol.
• Sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn ymwybodol o’u hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
• Darparu cynrychiolaeth i gleientiaid mewn amrywiaeth eang o leoliadau.
• Cefnogi cleientiaid sy’n dymuno cynrychioli eu diddordebau eu hunain.
• Casglu data a gwybodaeth berthnasol ar gyfer monitro’r gwasanaeth.
• Darparu gwybodaeth gytbwys am faterion perthnasol.

Mae’r dyletswyddau a amlinellir uchod yn ganllaw i brif gyfrifoldebau’r swydd. Efallai y bydd angen eu hadolygu yn ystod oes y swydd. Bydd unrhyw newidiadau mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd.

Cyffredinol:
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd naill ai feddu ar Ddiploma mewn Eiriolaeth Annibynnol eisoes, neu fod wedi’i hennill o fewn 12 mis, gan gynnwys modiwlau arbenigol EIMA.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fynychu digwyddiadau hyfforddi o’r fath y nodir eu bod o werth i’w rôl naill ai gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau neu eu hunain drwy oruchwylio ac arfarnu. Bydd y swydd hon yn y cartref gyda theithio i wahanol leoliadau Siroedd Conwy a Dinbych.

Manyleb Person

Ystyrir bod y canlynol yn hanfodol:
• Dealltwriaeth o eiriolaeth
• Dealltwriaeth o’r materion y mae pobl â phroblem iechyd meddwl yn eu hwynebu
• Agwedd gadarnhaol, anfeirniadol at, ac empathi â phobl â phroblemau iechyd meddwl
• Dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, gynnwys a grymuso’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth
• Y gallu i weithio mewn ffordd sy’n grymuso pobl
• Y gallu i ysgogi eich hun ac yn drefnus – gallu rheoli eich amser a chario eich llwyth achosion
• Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrediad eang o bobl
• Y gallu i gysylltu â phersonél ar bob lefel o strwythurau rheoli
• Sgiliau negodi
• Y gallu i weithio’n annibynnol ac ar y cyd ag eraill
• Sgiliau ysgrifennu adroddiadau/cadw cofnodion – Y gallu i ysgrifennu’n glir ac yn gryno mewn llythyrau ac adroddiadau
• Prosesu geiriau sylfaenol/sgiliau cyfrifiadurol/Y gallu i ddefnyddio cronfa ddata
• Perchennog / gyrrwr car.

Ystyrir bod y canlynol yn ddymunol:
• Profiad ym maes iechyd meddwl mewn swydd gyflogedig/gwirfoddol neu fel gofalwr neu ddefnyddiwr gwasanaethau
• Wedi cwblhau’r Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol
• Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg
• Profiad o waith eiriolaeth
• Profiad yn y sector gwirfoddol

Ceisiadau:
• Ni dderbynnir CV. Bydd angen gofyn am ffurflenni cais o swyddfa CADMHAS drwy e-bostio admin@cadmhas.co.uk neu ffonio’r swyddfa ar 01745 813999.
• Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Mehefin 2023. Gellir e-bostio’r ceisiadau i admin@cadmhas.co.uk neu eu postio i CADMHAS, 94 Cwrt Bowen, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JE

Mae’r dudalen hon ar gael yn: English

  • 9.00am – 4.30pm Llun
  • 9.00am – 4.30pm Mawrth
  • 9.00am – 4.30pm Mercher
  • 9.00am – 4.30pm Iau
  • 9.00am – 4.30pm Gwener

Copyright © 2023 CADMHAS. All rights reserved.

Colony of Ants Web Design and Development