Prentisiaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (EGMA)
DISGRIFIAD SWYDD
Bydd Angen I’r Ymgeisydd Llwyddiannus Ymgymryd  Chymwysterau Prentisiaeth Lefel 4 Mewn Eiriolaeth Annibynnol
https://www.gcstraining.co.uk/level-4-independent-advocacy-new
Mae CADMHAS yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig.
Sefydlwyd CADMHAS yn 2007 ac mae’n ddarparu gwasanaethau cefnogaeth eiriolaeth, eiriolaeth statudol (Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ac Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol) a gwasanaethau Cynrychioli Personau Perthnasol ar draws Gogledd Cymru a Phowys.
Rydym yn penodi tri EGMA llawn amser (37 awr yr wythnos) i ymuno a’n cynllun prentisiaeth. Gofyniad y cynllun yw bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cwblhau cwrs Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4, trwy fynychu coleg yn rhithiol dau ddiwrnod y mis. Bydd gweddill yr amser yn cael ei rhannu rhwng cwblhau gwaith cwrs a gwaith achos ymarferol, gan gychwyn gweithio ar achosion yn ymwneud a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (DoLS).
Yn Atebol I: Uwch Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol, sy’n atebol i Gyfarwyddwr Gwasanaethau CADMHAS.
Yn Gweithio Gyda: Staff a gwirfoddolwyr CADMHAS. Defnyddwyr gwasanaethau CADMHAS. Cydweithwyr mewn asiantaethau statudol ac anstatudol.
Lleoliad: Gweithio o gartref ac yn y gymuned. Rydym yn awyddus i benodi tri EGMA llawn amser i’r tîm, gydag un aelod o’r tîm wedi’i leoli yng Ngwynedd ac Ynys Môn (siaradwr Cymraeg yn hanfodol), un aelod o’r tîm wedi’u lleoli yng Nghonwy a Sir Ddinbych (lle mae’r Gymraeg yn ddymunol) ac aelod olaf y tîm yn Sir y Fflint a Wrecsam (gyda’r Gymraeg yn ddymunol). Bydd angen i chi deithio ledled yr ardal yr ydych wedi’ch lleoli ynddi, felly mae trwydded yrru yn hanfodol i deithio ond efallai y bydd angen i chi weithio mewn ardaloedd eraill yng Ngogledd Cymru o bryd i’w gilydd.
Nod y Swydd: I weithio fel Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol.
Cydnabyddiaeth: Y cyflog ar gyfer y swydd yw pro rata (37 awr yr wythnos) o £22,287 y flwyddyn gan godi i £23,613 ar ôl cwblhau’r Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol. Bydd CADMHAS yn cydymffurfio â dyletswyddau pensiwn y cyflogwr mewn perthynas â’r gweithiwr yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Pensiwn 2008.
Oriau: Yr wythnos waith ar gyfer y swydd hon yw 7.5 awr pedwar diwrnod yr wythnos gyda 7 awr un diwrnod yr wythnos (ac eithrio awr ginio). Nid yw goramser yn daladwy ond gellir cymryd amser i ffwrdd yn lle hynny ar amser sy’n gyfleus i bawb. Efallai y bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar y penwythnos yn achlysurol iawn
Gwyliau Blynyddol: Hawl gwyliau yw 37 diwrnod y flwyddyn gan gynnwys yr holl Wyliau Banc.
Gwybodaeth Ychwanegol: Bydd cyfnod prawf o 6 mis yn cychwyn o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth. Bydd y swydd yn destun gwiriad DBS manylach.
Prif Dasgau a Chyfrifoldebau:
- Darparu gwasanaethau EGMA ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth unigol fel y diffinnir gan raglen waith y gwasanaeth,
- Darparu gwasanaeth EGMA i bobol sydd â phroblemau galluedd meddyliol fel y’u diffinnir yn y Deddf Galluedd Meddyliol 2005,
- Darparu gwasanaeth annibynnol a cyfrinachol,
- I gynrychioli a chefnogi’r person ym mhob mater perthnasol i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol:
- Triniaeth Meddygol Difrifol,
- Adolygiadau Gofal,
- Newidiadau mewn sefyllfa llety,
- Diogelu,
- Amddifadu o Ryddid.
- Ysgrifennu adroddiad terfynol yn manylu ar ymweliadau neu gysylltiadau a wnaed ar ran y person sy’n cael ei gefnogi,
- Hyrwyddo CADMHAS mewn mentrau, ar y cyd ac asiantaethau eraill, sy’n digwydd yn yr ardal ac unrhyw waith cysylltiadau cyhoeddus arall a fydd yn hyrwyddo’r cynllun, ei waith a’i athroniaeth yn gadarnhaol.
Gweinyddiaeth:
- Datblygu gwybodaeth ymarferol o systemau gweinyddol yn ymwneud â CADMHAS,
- Cynnal a diogelu’r holl wybodaeth ac eiddo a gedwir yng nghanolfan CADMHAS.
- I gyflwyno adroddiadau ysgrifenedig pan ofynnir amdanynt.
Bydd y tasgau canlynol yn cael eu cyflawni, gan ddibynnu ar yr amser sydd ar gael ac o dan gyfarwyddyd y rheolwr llinell.
- Cynrychioli safbwyntiau CADMHAS ar amrywiaeth o bwyllgorau fel y gofynnir a chytunwyd gan y rheolwr,
- Cymryd rhan yn y gwaith o gasglu gwybodaeth leol,
- Cynorthwyo i gasglu data sydd ei angen ar gyfer gwerthuso a monitro pob agwedd ar y prosiect.
Cyffredinol:
- Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fynychu digwyddiadau hyfforddi o’r fath a nodir fel rhai sydd o werth i’w rôl, naill ai gan y Rheolwr Gwasanaeth neu eu hunain trwy oruchwylio a gwerthuso,
- Bydd blaenoriaethau ar gyfer gwaith yr EGMA yn unol â rhaglenni datblygu a gwaith y gwasanaeth. Bydd gwaith yr EGMA yn cael ei fonitro’n agos ar ran y Bwrdd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau.
Nid yw’r dyletswyddau a amlinellir uchod yn holl gynhwysfawr, ond maent yn ganllaw i brif gyfrifoldebau’r swydd. O ystyried hyn, bydd y disgrifiad swydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd ac efallai y bydd angen ei newid. Bydd newidiadau o’r fath mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd.
MANYLEB PERSON
Ystyrir bod y canlynol yn hanfodol:
- Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer dwy o’r swyddi,
- Y gallu i ddarparu cynrychiolaeth a chefnogaeth i gleientiaid mewn amrywiaeth eang o leoliadau, i amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau,
- Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gynnwys a grymuso defnyddwyr gwasanaeth,
- Sgiliau cyfathrebu da ar ran pobol eraill,
- Sgiliau da mewn gwrando,
- Sgiliau negodi,
- Profiad o weithio fel rhan o dîm a gweithio’n annibynnol,
- Y gallu i weithio mewn ffordd sy’n grymuso pobol,
- Rhaid meddu ar drwydded yrru lawn gyfredol a bod â mynediad at gerbyd y gallant ei ddefnyddio i’w galluogi i ymweld â defnyddwyr gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen,
- Parodrwydd i ddatblygu gyda’r sefydliad,
- Sgiliau ysgrifennu adroddiadau/cadw cofnodion,
- Y gallu i ddefnyddio pecynnau prosesu geiriau, mewnbynnu gwybodaeth i gronfa ddata a gwneud ymchwil ar y rhyngrwyd,
- Hyblygrwydd a brwdfrydedd.
Ystyrir y canlynol yn ddymunol:
- Meddu ar ddealltwriaeth o rôl yr EGMA fel y nodir yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 ond bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu fel rhan o’r cynllun prentisiaeth.
- Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer dwy o’r swyddi.
- Dymunol – Profiad ym maes mater galluedd meddyliol mewn gallu â thâl/gwirfoddol neu fel gofalwr neu ddefnyddiwr gwasanaethau,
- Dymunol – Profiad yn y sector gwirfoddoli.
Ceisiadau:
- Ni fydd CV yn cael ei derbyn. Bydd angen gofyn am ffurflenni cais o swyddfa CADMHAS drwy e-bostio admin@cadmhas.co.uk,
- Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Ionawr 2023. Gellir e-bostio’r ceisiadau i admin@cadmhas.co.uk neu eu postio i CADMHAS, 94 Cwrt Bowen, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JE.
- Cynhelir cyfweliadau ar 2il Chwefror 2023 yn CADMHAS, 94 Cwrt Bowen, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JE
Mae’r dudalen hon ar gael yn: English