• Hafan
  • Amdanom
    • Hanes
    • Beth yw eiriolaeth?
    • Ein Datganiad Cenhadaeth a’n Gwerthoedd
    • Ein safleoedd
    • Cwynion
    • Argyfwng – Cymorth
  • Cymorth i Chi
    • Y Bobl a Gefnogwn
    • Iechyd Meddwl Cymunedol
    • Eiriolaeth Galluedd Meddwl Annibynnol
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol
    • Cynrychiolydd Pobl Berthnasol
    • Cyfeillion Cyfreitha
    • Cymorth ar gyfer Bobol Ifanc
  • Cymorth i Bobol Broffesiynol
    • Ein Gwasanaethau (Proffesiynol)
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol i Bobl Broffesiynol
    • Hyfforddiant i Bobl Broffesiynol
    • Cynrychiolwyr Pobl Berthnasol i Bobl Broffesiynol
    • Y Ddeddfwriaeth
  • Ffurflenni Atgyfeirio
    • Ffurflen Atgyfeirio Cymunedol
    • Ffurflen Atgyfeirio EGMA
    • Ffurflen Atgyfeirio EIMA
  • Swyddi a Newyddion
    • Swyddi Gwag
  • Cyswllt
    • Argyfwng – Cymorth
  • Cymraeg
  • English

CADMHAS

CADMHAS Advocacy for people with Mental Health Issues

  • Email
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Twitter
Rydych yma:Home / Swyddi Gwag / Prentisiaeth Oedolion Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA)

Prentisiaeth Oedolion Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA)

DISGRIFIAD SWYDD

Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol  (Prentisiaeth Oedolion)

37 awr yr wythnos

BYDD ANGEN I’R YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YMGYMRYD Â CHYMWYSTERAU PRENTISIAETH LEFEL 4 MEWN EIRIOLAETH ANNIBYNNOL

https://www.gcstraining.co.uk/level-4-independent-advocacy-new

Sefydlwyd CADMHAS yn 2007 ac mae’n ddarparu gwasanaethau cefnogaeth eiriolaeth, eiriolaeth statudol (Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol ac Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol) a gwasanaethau Cynrychioli Personau Perthnasol ar draws Gogledd Cymru a Phowys.

Rydym am benodi EIMA (Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol) i ymuno â’n cynllun prentisiaeth. Bydd y cynllun, sy’n agored i ymgeiswyr o bob oedran (dros 16 oed) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus ddilyn cwrs Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4 (gan fynychu’r coleg yn rhithiol dau ddiwrnod y mis.) Bydd yr amser sy’n weddill yn cael ei rannu rhwng cwblhau gwaith cwrs a gwaith achos ymarferol. Rydym yn chwilio am un person i weithio yn bennaf yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam.

Yn Atebol I:                        Y Prif Eiriolwr, sy’n atebol i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau.

Yn Gweithio Gyda:          Staff, gwirfoddolwyr a chleientiaid CADMHAS

Lleoliad:                               Cartrefol – siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam

Oriau o Waith:                  Mae’r swydd hon yn 37 awr yr wythnos

Maes gwaith:                    Siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam yn bennaf ond mae angen gweithio ledled y rhanbarth i gyflenwi pan fo angen

Nodau’r post:                    Gweithio fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA) statudol yn unol â diffiniad y rôl o dan Deddf Iechyd Meddwl 1983 (fel diwygiwyd, yn fwyaf diweddar gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007)

Cydnabyddiaeth:             Y cyflog cychwynnol ar gyfer y swydd yw £22,287 pro rata y flwyddyn, gan symud i £23,613 pro rata pan gyflawnir y Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol. CADMHAS fydd yn talu am hyn.

Bydd CADMHAS yn cyfrannu, unwaith y bydd y cyfnod prawf wedi’i gwblhau, sy’n cyfateb i 3% o’r cyflog tuag at Gynllun Pensiwn y Llywodraeth. Telir costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chyfraddau cytunedig CADMHAS.

Oriau:                                   Wythnos waith llawn amser yw 37 awr, mae’r swydd hon am 37 awr yr wythnos (ac eithrio awr ginio). Nid yw goramser yn daladwy ond gellir cymryd amser i ffwrdd yn lle hynny ar amser sy’n gyfleus i bawb. Efallai y bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar y penwythnos yn achlysurol iawn.

Gwyliau Blynyddol:        Yr hawl i wyliau yw 37 diwrnod y flwyddyn pro rata, gan gynnwys yr holl Wyliau Banc.

Bydd cyfnod prawf o 3 mis yn cychwyn o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth. Bydd y swydd yn destun gwiriad DBS manylach

Disgrifiad Swydd – Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol 

Prif ddyletswyddau:

Gweithio fel Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam i CADMHAS. Bydd gwaith yn cael ei wneud o amrywiaeth o leoliadau fel y nodir gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau.

 

Bydd hyn yn cynnwys:

 

  • Darparu gwasanaeth eiriolaeth, sy’n rhad ac am ddim, yn annibynnol ac yn gyfrinachol.
  • Sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn ymwybodol o’u hawliau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
  • Darparu cynrychiolaeth i gleientiaid mewn amrywiaeth eang o leoliadau.
  • Cefnogi cleientiaid sy’n dymuno cynrychioli eu diddordebau eu hunain.
  • Casglu data a gwybodaeth berthnasol ar gyfer monitro’r gwasanaeth.

Darparu gwybodaeth gytbwys am faterion perthnasol.

 

Mae’r dyletswyddau a amlinellir uchod yn ganllaw i brif gyfrifoldebau’r swydd. Efallai y bydd angen eu hadolygu yn ystod oes y swydd. Bydd unrhyw newidiadau mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd.

 

Cyffredinol:

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd naill ai feddu ar Ddiploma mewn Eiriolaeth Annibynnol eisoes, neu fod wedi’i hennill o fewn 12 mis, gan gynnwys modiwlau arbenigol EIMA. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fynychu digwyddiadau hyfforddi o’r fath y nodir eu bod o werth i’w rôl naill ai gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau neu eu hunain drwy oruchwylio ac arfarnu. Bydd y swydd hon yn y cartref gyda theithio i wahanol leoliadau siroedd Conwy, Dinbych, Fflint a Wrecsam.

 

Manyleb person

Ystyrir bod y canlynol yn hanfodol: –

 

  • Dealltwriaeth o eiriolaeth
  • Dealltwriaeth o’r materion y mae pobl â phroblem iechyd meddwl yn eu hwynebu
  • Agwedd gadarnhaol, anfeirniadol at, ac empathi â phobl â phroblemau iechyd meddwl
  • Dealltwriaeth o, ac ymrwymiad i, gynnwys a grymuso’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth
  • Y gallu i weithio mewn ffordd sy’n grymuso pobl
  • Y gallu i ysgogi eich hun ac yn drefnus – gallu rheoli eich amser a chario eich llwyth achosion
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrediad eang o bobl
  • Y gallu i gysylltu â phersonél ar bob lefel o strwythurau rheoli
  • Sgiliau negodi
  • Y gallu i weithio’n annibynnol ac ar y cyd ag eraill
  • Sgiliau ysgrifennu adroddiadau/cadw cofnodion – Y gallu i ysgrifennu’n glir ac yn gryno mewn llythyrau ac adroddiadau
  • Prosesu geiriau sylfaenol/sgiliau cyfrifiadurol/Y gallu i ddefnyddio cronfa ddata
  • Perchennog / gyrrwr car.

 

Ystyrir y canlynol yn ddymunol:-

  • Profiad ym maes iechyd meddwl mewn swydd gyflogedig/gwirfoddol neu fel gofalwr neu ddefnyddiwr gwasanaethau
  • Wedi cwblhau’r Diploma mewn Eiriolaeth Annibynnol
  • Y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • Profiad o waith eiriolaeth
  • Profiad yn y sector gwirfoddol

 

Ceisiadau:-

  • Ni dderbynnir CV. Bydd angen gofyn am ffurflenni cais o swyddfa CADMHAS drwy e-bostio admin@cadmhas.co.uk neu ffonio’r swyddfa ar 01745 813999.
  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Mawrth 2023. Gellir e-bostio’r ceisiadau i admin@cadmhas.co.uk neu eu postio i CADMHAS, 94 Cwrt Bowen, Parc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JE

 

Mae’r dudalen hon ar gael yn: English

  • 9.00am – 4.30pm Llun
  • 9.00am – 4.30pm Mawrth
  • 9.00am – 4.30pm Mercher
  • 9.00am – 4.30pm Iau
  • 9.00am – 4.30pm Gwener

Copyright © 2023 CADMHAS. All rights reserved.

Colony of Ants Web Design and Development