• Hafan
  • Amdanom
    • Hanes
    • Beth yw eiriolaeth?
    • Ein Datganiad Cenhadaeth a’n Gwerthoedd
    • Ein safleoedd
    • Cwynion
    • Argyfwng – Cymorth
  • Cymorth i Chi
    • Y Bobl a Gefnogwn
    • Iechyd Meddwl Cymunedol
    • Eiriolaeth Galluedd Meddwl Annibynnol
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol
    • Cynrychiolydd Pobl Berthnasol
    • Cyfeillion Cyfreitha
    • Cymorth ar gyfer Bobol Ifanc
  • Cymorth i Bobol Broffesiynol
    • Ein Gwasanaethau (Proffesiynol)
    • Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol i Bobl Broffesiynol
    • Hyfforddiant i Bobl Broffesiynol
    • Cynrychiolwyr Pobl Berthnasol i Bobl Broffesiynol
    • Y Ddeddfwriaeth
  • Ffurflenni Atgyfeirio
    • Ffurflen Atgyfeirio Cymunedol
    • Ffurflen Atgyfeirio EGMA
    • Ffurflen Atgyfeirio EIMA
  • Swyddi a Newyddion
    • Swyddi Gwag
  • Cyswllt
    • Argyfwng – Cymorth
  • Cymraeg
  • English

CADMHAS

CADMHAS Advocacy for people with Mental Health Issues

  • Email
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Twitter
Rydych yma:Home / Swyddi Gwag / Recriwtio Ymddiriedolwyr

Recriwtio Ymddiriedolwyr

Rydym yn sefydliad eiriolaeth iechyd meddwl sy’n ymroddedig i sicrhau bod barnau a phryderon y bobol sy’n byw yng Nghymru a phroblemau iechyd meddwl yn cael eu clywed.

Yn CADMHAS, rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ddarparu cymorth i ardal ddaearyddol eang, heb gyfaddawdu ar ein hymrwymiad i ddarparu’r lefelau uchaf o wasanaeth yn gyson i’n holl gleientiaid.

Rydym wedi dechrau cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol i ehangu ein gwasanaethau, sydd wedi arwain at dwf o fudiad 6 staff yn 2008 i 30 staff ar hyn o bryd.

Elusen gofrestredig sydd yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig trwy warant ydym. Mae’r bwrdd o gyfarwyddwyr hefyd yn ymddiriedolwyr o’r elusen; ar hyn o bryd mae yna 5 ohonynt.

Oherwydd y twf llwyddiannus yma, rydym eisoes eisiau recriwtio o leiaf 3 ymddiriedolwyr newydd, er mwyn parhau gyda’n cynlluniau o dyfu a gwella ein gwasanaeth presennol.

Rydym yn annog ac unrhyw un i ymgeisio, ond yn enwedig os oes gennych brofiad o weithio mewn un neu mwy o’r isod:

  • Gofalu am berson gyda thrafferthion iechyd meddwl,
  • Gweithio mewn rheolaeth ariannol,
  • Profiad/ bod â gwybodaeth am y Ddeddf Iechyd Meddwl,
  • Cyfathrebu a/neu bersonél,
  • Ysgrifennu cynigion am gontractau,
  • Gweithio mewn cymunedau gwahanol a/neu grwpiau minoriaeth,
  • Unrhyw sgil(iau) a gall llesáu’r mudiad.

Mae hyn yn rôl wirfoddol ac yn gyfle gwych i fod yn rhan o wasanaeth eiriolaeth lwyddiannus, sydd wedi ymrwymo i ymestyn cyrhaeddiad ei wasanaethau, wrth sicrhau bod y twf ddim yn amharu ar ein gallu i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr o’r ansawdd uchaf i’r cymunedau lleol dros Gymru.

Mae’r Bwrdd o Gyfarwyddwyr yn gyfrifol am lywodraethu CADMHAS yn ariannol a chyfreithiol, wrth osod strategaethau a pholisïau ac yn cynorthwyo’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau a’r staff gyda gweithredu dogfennau llywodraethu. Mae cyfarfodydd y Bwrdd yn cael ei chynnal bob chwe wythnos.

Os ydych yn teimlo bod gennych rywbeth i gynnig a/neu fod gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’n mudiad, cysylltwch ag ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau, Mr Elfed Williams, trwy ffonio 01745 813999 neu e-bostiwch sm@cadmhas.co.uk am fwy o fanylion os gwelwch yn dda.

Rhif Elusen Gofrestredig: 1128582 Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant: 06684259

Mae’r dudalen hon ar gael yn: English

  • 9.00am – 4.30pm Llun
  • 9.00am – 4.30pm Mawrth
  • 9.00am – 4.30pm Mercher
  • 9.00am – 4.30pm Iau
  • 9.00am – 4.30pm Gwener

Copyright © 2023 CADMHAS. All rights reserved.

Colony of Ants Web Design and Development